3. Felly, gan fy mod innau wedi astudio'r pethau yma'n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu'r cwbl yn drefnus i chi, syr.
4. Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.
5. Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o'r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses.
6. Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e'n dweud.
7. Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw'n eithaf hen.
8. Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad.
9. A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, trwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i'r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.)
10. Pan oedd yn amser i'r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan.
11. Roedd Sachareias wrthi'n llosgi'r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o'i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i'r allor.
12. Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd.
13. Ond dyma'r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydy'r enw rwyt i'w roi iddo,
14. a bydd yn dy wneud di'n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi ei eni.
15. Bydd e'n was pwysig iawn i'r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni.
16. Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw.
17. Gyda'r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi'r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â'u plant, ac yn peri i'r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy'n gwneud synnwyr.”
18. “Sut alla i gredu'r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi'r cwbl, dw i'n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.”
19. Dyma'r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy'r angel sy'n sefyll o flaen Duw i'w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti.