2. A dyma fe'n dweud wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc a hwrdd sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Offryma'r bustach i'r ARGLWYDD fel offrwm i lanhau o bechod, a'r hwrdd fel offrwm i'w losgi.”
3. Yna dywed wrth bobl Israel, “Cymerwch fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, llo blwydd oed ac oen heb ddim byd o'i le arnyn nhw yn offrwm i'w losgi,
4. a bustach a hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Mae'r rhain i gael eu haberthu gydag offrwm o rawn wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Gwnewch hyn am fod yr ARGLWYDD yn mynd i ddod i'r golwg heddiw.”
5. Felly dyma nhw'n dod â'r cwbl oedd Moses wedi ei ddweud o flaen y Tabernacl. A dyma'r bobl i gyd yn sefyll yno o flaen yr ARGLWYDD.
6. A dyma Moses yn dweud “Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrthoch chi am wneud hyn, i chi gael gweld ei ysblander e.”
7. Wedyn dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dos at yr allor a mynd trwy'r ddefod o gyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi. Cyflwyna nhw i wneud pethau'n iawn rhyngot ti â Duw a rhwng dy bobl â Duw. Gwna yn union beth mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”
8. Felly dyma Aaron yn mynd at yr allor ac yn lladd y llo yn offrwm dros ei bechod ei hun.
9. Wedyn dyma ei feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo. Dyma Aaron yn rhoi ei fys yn y gwaed, ac yn ei roi ar gyrn yr allor. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
10. Yna llosgi'r brasder, yr arennau a rhan isaf yr iau ar yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
11. Wedyn dyma fe'n llosgi'r croen a'r cig tu allan i'r gwersyll.
12. Dyma fe'n lladd yr offrwm i'w losgi nesaf. A dyma'i feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma Aaron yn ei sblasio o gwmpas yr allor.