Lefiticus 9:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. Roedden nhw wedi cyflwyno'r anifail iddo bob yn ddarn, gan gynnwys y pen, ac roedd wedi llosgi'r cwbl ar yr allor.

14. Dyma fe'n golchi'r coluddion a'r coesau ôl, ac wedyn eu llosgi nhw ar ben gweddill yr offrwm ar yr allor.

15. Wedyn dyma Aaron yn cyflwyno offrymau'r bobl. Cymerodd y bwch gafr oedd yn offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, ei ladd, a mynd trwy'r un ddefod o buro ac o'r blaen.

16. Wedyn dyma fe'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi, gan ddilyn y ddefod arferol wrth wneud hynny.

17. Wedyn yr offrwm o rawn. Dyma fe'n cymryd llond ei law ohono a'i losgi ar yr allor gyda'r offrwm oedd i'w losgi yn y bore.

18. Ar ôl hynny dyma fe'n lladd y bustach a'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma feibion Aaron yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma fe'n sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.

19. Wedyn dyma fe'n cymryd brasder y bustach a'r hwrdd – brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.

20. A dyma fe'n gosod y rhain ar ben y brestiau, ac yna llosgi'r brasder i gyd ar yr allor.

21. Wedyn dyma Aaron yn codi'r brestiau a rhan uchaf y goes ôl, a'u cyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Gwnaeth yn union fel roedd Moses wedi dweud.

22. Wedyn dyma Aaron yn troi at y bobl ac yn codi ei ddwylo a'u bendithio nhw. Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrymau i gyd dyma fe'n dod i lawr o'r allor,

23. ac yna mynd gyda Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw. Pan ddaethon nhw allan dyma nhw'n bendithio'r bobl, a dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD.

24. Yna dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i losgi popeth oedd ar yr allor. Pan welodd pawb hyn dyma nhw'n gweiddi'n llawen ac yn plygu'n isel a'u hwynebau ar lawr.

Lefiticus 9