Lefiticus 9:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wythnos wedyn, pan oedd y seremoni ordeinio drosodd, dyma Moses yn galw Aaron a'i feibion ac arweinwyr Israel at ei gilydd.

2. A dyma fe'n dweud wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc a hwrdd sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Offryma'r bustach i'r ARGLWYDD fel offrwm i lanhau o bechod, a'r hwrdd fel offrwm i'w losgi.”

3. Yna dywed wrth bobl Israel, “Cymerwch fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, llo blwydd oed ac oen heb ddim byd o'i le arnyn nhw yn offrwm i'w losgi,

4. a bustach a hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Mae'r rhain i gael eu haberthu gydag offrwm o rawn wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Gwnewch hyn am fod yr ARGLWYDD yn mynd i ddod i'r golwg heddiw.”

5. Felly dyma nhw'n dod â'r cwbl oedd Moses wedi ei ddweud o flaen y Tabernacl. A dyma'r bobl i gyd yn sefyll yno o flaen yr ARGLWYDD.

6. A dyma Moses yn dweud “Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrthoch chi am wneud hyn, i chi gael gweld ei ysblander e.”

7. Wedyn dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dos at yr allor a mynd trwy'r ddefod o gyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi. Cyflwyna nhw i wneud pethau'n iawn rhyngot ti â Duw a rhwng dy bobl â Duw. Gwna yn union beth mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”

8. Felly dyma Aaron yn mynd at yr allor ac yn lladd y llo yn offrwm dros ei bechod ei hun.

9. Wedyn dyma ei feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo. Dyma Aaron yn rhoi ei fys yn y gwaed, ac yn ei roi ar gyrn yr allor. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.

10. Yna llosgi'r brasder, yr arennau a rhan isaf yr iau ar yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Lefiticus 9