11. “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD:
12. Os ydy rhywun yn ei gyflwyno i ddweud diolch am rywbeth, rhaid cyflwyno offrwm gydag e sydd wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau. Bara heb furum ynddo wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew, a bara wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau ac wedi ei socian mewn olew.
13. Wrth gyflwyno'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid dod â bara wedi ei wneud gyda burum hefyd.
14. Rhaid rhoi un dorth o bob math o offrwm o rawn yn gyfraniad i'r offeiriad sy'n sblasio gwaed yr offrwm o gwmpas yr allor.
15. Wedyn rhaid i gig yr aberth i ddweud diolch gael ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei offrymu. Does dim ohono i gael ei gadw tan y bore wedyn.
16. Ond os ydy'r aberth yn cael ei gyflwyno am fod rhywun yn gwneud addewid neu'n rhoi rhywbeth o'i wirfodd i'r ARGLWYDD, mae'n iawn i gadw peth ohono a'i fwyta y diwrnod wedyn.
17. Ond os oes unrhyw gig dros ben ar ôl hynny rhaid ei losgi y diwrnod wedyn.
18. Ddylai cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ddim cael ei fwyta fwy na diwrnod ar ôl ei gyflwyno. Os ydy hynny'n digwydd fydd y person sydd wedi cyflwyno'r offrwm ddim yn cael ei dderbyn. Bydd yr offrwm wedi ei sbwylio, a bydd unrhyw un sydd wedi ei fwyta yn cael ei gyfri'n euog.
19. “Os ydy'r cig wedi cyffwrdd unrhyw beth sy'n aflan dydy e ddim i gael ei fwyta. Rhaid ei losgi. Ond fel arall mae unrhyw un sydd yn lân yn seremonïol yn gallu ei fwyta.
20. Os ydy rhywun yn dal yn aflan ac yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
21. Pan mae rhywun wedi cyffwrdd unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, neu gorff anifail neu rhyw greadur arall, ac wedyn yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
22. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: