Lefiticus 6:19-21 beibl.net 2015 (BNET)

19. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

20. “Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath a'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau

21. wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a'i grasu ar radell. Rhaid iddo fod wedi ei socian mewn olew, ei dorri yn ddarnau, a'i gyflwyno yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

Lefiticus 6