Lefiticus 3:13-17 beibl.net 2015 (BNET)

13. o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd yno. Wedyn bydd offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.

14. Yna rhaid iddo gyflwyno'r canlynol yn rhodd i'r ARGLWYDD: Y brasder o gwmpas perfeddion yr anifail a'r brasder ar yr organau gwahanol,

15. y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.

16. Wedyn bydd offeiriad yn llosgi'r rhain ar yr allor, yn offrwm bwyd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.“Yr ARGLWYDD piau'r brasder i gyd.

17. Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw: Peidiwch byth a bwyta unrhyw frasder na gwaed.”

Lefiticus 3