9. “Os ydy rhywun wedi addo rhoi anifail i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, mae'r rhodd yna'n gysegredig.
10. Dydy'r anifail ddim i gael ei gyfnewid am un arall, hyd yn oed os ydy'r anifail hwnnw'n un gwell. Os ydy e'n ceisio gwneud hynny, bydd y ddau anifail yn gysegredig.
11. Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fynd a'r anifail hwnnw i'w ddangos i'r offeiriad.
12. Bydd yr offeiriad yn penderfynu beth ydy gwerth yr anifail.
13. Wedyn os ydy'r person wnaeth addo'r anifail eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris.
14. “Os ydy rhywun yn addo rhoi ei dŷ i'w gysegru i'r ARGLWYDD, mae'r offeiriad i benderfynu beth ydy gwerth y tŷ.
15. Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tŷ eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
16. “Os ydy rhywun yn addo rhoi peth o dir y teulu i'w gysegru i'r ARGLWYDD, dylid penderfynu beth ydy ei werth yn ôl faint o gnwd fyddai'n tyfu arno. Pum deg darn arian am bob cant cilogram o haidd.
17. Os ydy'r tir yn cael ei addo yn ystod blwyddyn y rhyddhau mawr, rhaid talu'r gwerth llawn.
18. Unrhyw bryd ar ôl hynny bydd yr offeiriad yn penderfynu faint yn llai sydd i'w dalu ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf.
19. Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tir eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
20. Ond os ydy e'n gwerthu'r tir i rywun arall, fydd e ddim yn cael ei brynu'n ôl byth.
21. Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir wedi ei neilltuo unwaith ac am byth i'r ARGLWYDD ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid.
22. “Os ydy rhywun yn cysegru i'r ARGLWYDD ddarn o dir sydd wedi ei brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i'w deulu),
23. bydd yr offeiriad yn ei penderfynu faint mae'n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn blwyddyn y rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.
24. Ar flwyddyn y rhyddhau bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu).
25. Mae'r pris i'w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.
26. “Does gan neb hawl i gyflwyno anifail cyntaf-anedig i'r ARGLWYDD (buwch, dafad na gafr), achos yr ARGLWYDD piau'r anifail hwnnw yn barod.
27. Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r ARGLWYDD, mae ganddo hawl i'w brynu'n ôl. Rhaid iddo dalu beth ydy gwerth yr anifail, ac ychwanegu 20%. Os ydy'r anifail ddim yn cael ei brynu yn ôl, rhaid ei werth am faint bynnag mae e'n werth.