12. Bydd yr offeiriad yn penderfynu beth ydy gwerth yr anifail.
13. Wedyn os ydy'r person wnaeth addo'r anifail eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris.
14. “Os ydy rhywun yn addo rhoi ei dŷ i'w gysegru i'r ARGLWYDD, mae'r offeiriad i benderfynu beth ydy gwerth y tŷ.
15. Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tŷ eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
16. “Os ydy rhywun yn addo rhoi peth o dir y teulu i'w gysegru i'r ARGLWYDD, dylid penderfynu beth ydy ei werth yn ôl faint o gnwd fyddai'n tyfu arno. Pum deg darn arian am bob cant cilogram o haidd.
17. Os ydy'r tir yn cael ei addo yn ystod blwyddyn y rhyddhau mawr, rhaid talu'r gwerth llawn.
18. Unrhyw bryd ar ôl hynny bydd yr offeiriad yn penderfynu faint yn llai sydd i'w dalu ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf.
19. Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tir eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
20. Ond os ydy e'n gwerthu'r tir i rywun arall, fydd e ddim yn cael ei brynu'n ôl byth.
21. Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir wedi ei neilltuo unwaith ac am byth i'r ARGLWYDD ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid.
22. “Os ydy rhywun yn cysegru i'r ARGLWYDD ddarn o dir sydd wedi ei brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i'w deulu),
23. bydd yr offeiriad yn ei penderfynu faint mae'n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn blwyddyn y rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.
24. Ar flwyddyn y rhyddhau bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu).
25. Mae'r pris i'w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.
26. “Does gan neb hawl i gyflwyno anifail cyntaf-anedig i'r ARGLWYDD (buwch, dafad na gafr), achos yr ARGLWYDD piau'r anifail hwnnw yn barod.