Lefiticus 26:5-10 beibl.net 2015 (BNET)

5. Byddwch yn cael cnydau gwych, a llwythi o rawnwin. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a cewch fyw yn saff yn y wlad.

6. Bydda i'n rhoi heddwch a llonydd i chi. Byddwch yn gallu gorwedd i gysgu heb fod ofn. Bydda i'n cael gwared รข'r anifeiliaid peryglus sy'n y wlad, a fydd neb yn ymosod ar y wlad.

7. Byddwch chi'n concro eich gelynion. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf.

8. Bydd pump ohonoch chi yn curo cant ohonyn nhw, a chant yn curo deg mil. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf.

9. Bydda i'n eich helpu chi. Byddwch chi'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydda i'n cadw'r ymrwymiad wnes i gyda chi.

10. Fydd gynnoch chi ddim digon o le i gadw eich cnydau i gyd. Bydd rhaid i chi daflu peth o gnwd y flwyddyn cynt i ffwrdd.

Lefiticus 26