Lefiticus 26:37-39 beibl.net 2015 (BNET)

37. Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich holau chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn.

38. Bydd llawer ohonoch chi yn marw ac yn cael eich claddu mewn gwledydd tramor.

39. A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, ar holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid.

Lefiticus 26