27. “Wedyn os fyddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, ac yn dal i dynnu'n groes,
28. bydda i'n wirioneddol ddig. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi, a bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n ofnadwy.
29. Byddwch chi'n dioddef newyn mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta eich plant eich hunain – eich bechgyn a'ch merched.
30. Bydda i'n dinistrio eich allorau paganaidd chi, a'ch lleoedd cysegredig, ac yn taflu eich cyrff marw chi ar ‛gyrff‛ eich eilun-dduwiau chi. Bydda i'n eich ffieiddio chi.
31. Bydd eich trefi'n adfeilion a'ch temlau chi'n cael eu dinistrio. Fydd eich offrymau chi ddim yn fy mhlesio i o gwbl.
32. Bydd eich tir chi yn y fath gyflwr, bydd y gelynion fydd yn dod i fyw yno wedi dychryn.
33. Bydd y rhyfel yn dinistrio'r wlad a'r trefi, a byddwch chi'n cael eich gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.
34. Tra byddwch chi'n gaethion yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys.
35. Bydd e'n cael mwynhau gorffwys y Saboth oedd i fod i'w gael pan oeddech chi'n byw yno.
36. Bydd y rhai ohonoch chi fydd yn dal yn fyw wedi anobeithio'n llwyr yng ngwlad y gelyn. Bydd sŵn deilen yn ysgwyd yn ddigon i'w dychryn nhw. Byddan nhw'n dianc oddi wrth y cleddyf, ac yn syrthio er bod neb yn eu herlid nhw.
37. Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich holau chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn.
38. Bydd llawer ohonoch chi yn marw ac yn cael eich claddu mewn gwledydd tramor.