Lefiticus 26:20-30 beibl.net 2015 (BNET)

20. Byddwch chi'n gweithio'n galed i ddim byd. Fydd dim cnydau'n tyfu ar y tir, a dim ffrwyth yn tyfu ar y coed.

21. “Os dych chi'n mynnu tynnu'n groes a gwrthod gwrando, bydda i'n eich cosbi chi'n waeth fyth.

22. Bydda i'n anfon anifeiliaid gwylltion i ymosod arnoch chi. Byddan nhw'n lladd eich plant, yn difa eich anifeiliaid. Bydd y boblogaeth yn lleihau a'r ffyrdd yn wag.

23. “Os fydd hynny i gyd ddim yn gwneud i chi droi yn ôl ata i, ac os byddwch chi'n dal i dynnu'n groes,

24. bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi waeth fyth.

25. Bydd rhyfel yn dechrau. Dyma'r dial wnes i sôn amdano pan wnes i'r ymrwymiad gyda chi. Byddwch chi'n dianc i'r trefi caerog, ond yn dioddef o afiechydon yno, a bydd eich gelynion yn eich dal chi.

26. Fydd gynnoch chi ddim bwyd. Bydd un ffwrn yn ddigon i ddeg o wragedd bobi ynddi. Fydd yna ddim ond briwsion i bawb. Fydd yna byth ddigon i'w fwyta.

27. “Wedyn os fyddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, ac yn dal i dynnu'n groes,

28. bydda i'n wirioneddol ddig. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi, a bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n ofnadwy.

29. Byddwch chi'n dioddef newyn mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta eich plant eich hunain – eich bechgyn a'ch merched.

30. Bydda i'n dinistrio eich allorau paganaidd chi, a'ch lleoedd cysegredig, ac yn taflu eich cyrff marw chi ar ‛gyrff‛ eich eilun-dduwiau chi. Bydda i'n eich ffieiddio chi.

Lefiticus 26