Lefiticus 26:16-27 beibl.net 2015 (BNET)

16. dyma fydda i'n ei wneud: Bydda i'n dod â trychineb sydyn arnoch chi – afiechydon ellir mo'i gwella, gwres uchel, colli'ch golwg a cholli archwaeth am fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta'r cnwd.

17. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydd eich gelynion yn eich sathru chi dan draed. Bydd y rhai sy'n eich casáu chi yn eich rheoli chi. Byddwch chi'n dianc i ffwrdd er bod neb yn eich erlid chi.

18. Ac os byddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, bydda i'n eich cosbi chi yn llawer gwaeth.

19. Bydda i'n delio gyda'ch balchder ystyfnig chi. Bydd yr awyr yn galed fel haearn, a'r ddaear fel pres, am fod dim glaw.

20. Byddwch chi'n gweithio'n galed i ddim byd. Fydd dim cnydau'n tyfu ar y tir, a dim ffrwyth yn tyfu ar y coed.

21. “Os dych chi'n mynnu tynnu'n groes a gwrthod gwrando, bydda i'n eich cosbi chi'n waeth fyth.

22. Bydda i'n anfon anifeiliaid gwylltion i ymosod arnoch chi. Byddan nhw'n lladd eich plant, yn difa eich anifeiliaid. Bydd y boblogaeth yn lleihau a'r ffyrdd yn wag.

23. “Os fydd hynny i gyd ddim yn gwneud i chi droi yn ôl ata i, ac os byddwch chi'n dal i dynnu'n groes,

24. bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi waeth fyth.

25. Bydd rhyfel yn dechrau. Dyma'r dial wnes i sôn amdano pan wnes i'r ymrwymiad gyda chi. Byddwch chi'n dianc i'r trefi caerog, ond yn dioddef o afiechydon yno, a bydd eich gelynion yn eich dal chi.

26. Fydd gynnoch chi ddim bwyd. Bydd un ffwrn yn ddigon i ddeg o wragedd bobi ynddi. Fydd yna ddim ond briwsion i bawb. Fydd yna byth ddigon i'w fwyta.

27. “Wedyn os fyddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, ac yn dal i dynnu'n groes,

Lefiticus 26