34. A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser.
35. “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd.
36. Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi.
37. Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo.
38. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi.
39. “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu ei hun yn gaethwas i chi, peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas.
40. Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr.
41. Ar ôl hynny bydd e a'i blant yn rhydd i fynd yn ôl at eu teulu a'u heiddo.
42. Fy ngweision i ydyn nhw. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Felly dŷn nhw ddim i gael eu gwerthu fel caethweision.