Lefiticus 25:12-26 beibl.net 2015 (BNET)

12. Mae'n flwyddyn o ddathlu, wedi ei chysegru. Mae unigolion i gael bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun.

13. “Yn y flwyddyn yma mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl.

14. Os ydy rhywun yn gwerthu eiddo, neu'n prynu gan gyd-Israeliad, rhaid bod yn gwbl deg a pheidio cymryd mantais.

15. Dylai'r pris gael ei gytuno ar sail faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers blwyddyn y rhyddhau, a nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf.

16. Os oes blynyddoedd lawer i fynd, bydd y pris yn uwch. Os mai ychydig o flynyddoedd sydd i fynd bydd y pris yn is. Beth sy'n cael ei werthu go iawn ydy nifer y cnydau fydd y tir yn ei roi.

17. Peidiwch cymryd mantais o rywun arall. Ofnwch eich Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.

18. “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i'n ffyddlon. Cewch fyw yn saff yn y wlad wedyn.

19. Bydd y tir yn rhoi digon i chi ei fwyta, a cewch fyw yn saff.

20. Peidiwch poeni na fydd digon i'w fwyta yn y seithfed flwyddyn, pan dych chi ddim i fod i hau na chasglu cnydau.

21. Bydda i'n gwneud yn siŵr fod cnwd y chweched flwyddyn yn ddigon i bara am dair blynedd.

22. Byddwch chi'n dal i fwyta o gnydau y chweched flwyddyn pan fyddwch chi'n hau eich had yn yr wythfed flwyddyn. Bydd digon gynnoch chi tan y nawfed flwyddyn pan fydd y cnwd newydd yn barod i'w gasglu.

23. “Dydy tir ddim i gael ei werthu am byth. Fi sydd piau'r tir. Mewnfudwyr neu denantiaid sy'n byw arno dros dro ydych chi.

24. Pan mae tir yn cael ei werthu, rhaid i'r gwerthwr fod â'r hawl i'w brynu yn ôl.

25. “Os ydy un o'ch pobl chi yn mynd mor dlawd nes bod rhaid iddo werthu peth o'i dir, mae gan ei berthynas agosaf hawl i ddod a prynu'r tir yn ôl.

26. Lle does dim perthynas agosaf yn gallu prynu'r tir, mae'r gwerthwr ei hun yn gallu ei brynu os ydy e'n llwyddo i ennill digon o arian i wneud hynny.

Lefiticus 25