Lefiticus 25:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd Moses ar Fynydd Sinai dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho:

2. “Dywed wrth bobl Israel:“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, rhaid i'r tir gadw Saboth i'r ARGLWYDD a gorffwys.

3. Cewch hau eich had a thrin eich gwinllannoedd a chasglu'r cnydau am chwe mlynedd.

4. Ond mae'r seithfed flwyddyn i fod yn Saboth i'r ARGLWYDD – blwyddyn i'r tir orffwys. Does dim hau i fod, na thrin gwinllannoedd.

5. Rhaid i chi beidio casglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'r tir i gael gorffwys yn llwyr am flwyddyn.

Lefiticus 25