Lefiticus 24:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Mae'r offeiriaid, Aaron a'i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta'r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD.”

12. Dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes byddai'r ARGLWYDD yn gwneud yn glir iddyn nhw beth oedd i ddigwydd iddo.

13. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

14. “Mae'r dyn yma wedi fy melltithio i. Dos â fe allan o'r gwersyll, a gwna i'r rhai glywodd e'n melltithio osod eu dwylo ar ei ben. Wedyn rhaid i bawb sydd wedi dod at ei gilydd yno ei ladd drwy daflu cerrig ato.

15. Wedyn rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae unrhyw un sy'n melltithio enw ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod,

16. ac mae unrhyw un sy'n amharchu enw'r ARGLWYDD i farw. Rhaid i bawb daflu cerrig ato a'i ladd. Sdim ots os ydy'r person yn un o bobl Israel neu'n fewnfudwr sy'n byw yn ein plith. Mae unrhyw un sy'n amharchu enw Duw i farw.

17. “‘Marwolaeth ydy'r gosb am lofruddiaeth hefyd.

18. Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i'r perchennog.

19. Os ydy rhywun wedi anafu person arall, rhaid i'r gosb gyfateb i'r drosedd –

Lefiticus 24