23. Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na'r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.”
24. Dyma'r pethau ddwedodd Moses wrth Aaron a'i ddisgynyddion ac wrth bobl Israel.