Lefiticus 20:6-12 beibl.net 2015 (BNET)

6. Neu os ydy rhywun yn mynd ar ôl ysbrydion neu'n ceisio siarad â'r meirw, bydda i'n troi yn erbyn y person hwnnw, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw

7. Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi, a bod yn sanctaidd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.

8. Byddwch yn ufudd i mi, a gwneud beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich cysegru chi yn bobl i mi fy hun.

9. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Fe ei hun sydd ar fai.

10. Os ydy rhywun yn cysgu gyda gwraig dyn arall, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau ohonyn nhw.

11. Mae dyn sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad yn amharchu ei dad. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.

12. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Maen nhw wedi gwneud peth ffiaidd. Arnyn nhw mae'r bai.

Lefiticus 20