Lefiticus 20:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. bydda i fy hun yn troi yn erbyn y dyn hwnnw a'i deulu. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Dyna fydd yn digwydd iddo, ac i bawb arall sy'n gwneud yr un fath ac yn puteinio drwy addoli'r duw Molech.

6. Neu os ydy rhywun yn mynd ar ôl ysbrydion neu'n ceisio siarad â'r meirw, bydda i'n troi yn erbyn y person hwnnw, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw

7. Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi, a bod yn sanctaidd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.

8. Byddwch yn ufudd i mi, a gwneud beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich cysegru chi yn bobl i mi fy hun.

9. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Fe ei hun sydd ar fai.

Lefiticus 20