Lefiticus 20:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth bobl Israel:Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn aberthu un o'i blant i'r duw Molech, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i bobl daflu cerrig ato nes bydd wedi marw.

3. Bydda i'n troi yn erbyn person felly. Bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw, am roi ei blentyn i Molech, llygru'r cysegr, a sarhau fy enw sanctaidd i.

4. Os bydd pobl y wlad yn diystyru'r peth pan mae rhywun yn rhoi ei blentyn i Molech, a ddim yn ei roi i farwolaeth,

5. bydda i fy hun yn troi yn erbyn y dyn hwnnw a'i deulu. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Dyna fydd yn digwydd iddo, ac i bawb arall sy'n gwneud yr un fath ac yn puteinio drwy addoli'r duw Molech.

6. Neu os ydy rhywun yn mynd ar ôl ysbrydion neu'n ceisio siarad â'r meirw, bydda i'n troi yn erbyn y person hwnnw, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw

Lefiticus 20