Lefiticus 19:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth bobl Israel: Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd.

3. Rhaid i bob un ohonoch chi barchu ei fam a'i dad.Rhaid i chi gadw fy Sabothau. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.

4. Peidiwch troi cefn arna i ac addoli eilunod diwerth, na gwneud delwau o fetel tawdd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.

5. Pan fyddwch chi'n cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid i chi ei gyflwyno mewn ffordd sy'n ei wneud yn dderbyniol.

6. Rhaid ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei aberthu neu'r diwrnod wedyn. Os oes peth ar ôl ar y trydydd diwrnod rhaid ei losgi.

7. Dydy e ddim i gael ei fwyta y diwrnod hwnnw. Mae'n gig sydd wedi ei halogi. Dydy e ddim yn dderbyniol i Dduw.

8. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei gosbi am bechu, am ei fod wedi trin rhywbeth sydd wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD yn sarhaus. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

9. Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl.

10. Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A paid mynd trwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di.

11. Paid dwyn.Paid dweud celwydd.Paid twyllo pobl eraill.

Lefiticus 19