39. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ
40. mae'r offeiriad i orchymyn fod y cerrig oedd â'r tyfiant arnyn nhw i gael eu tynnu allan o'r waliau a'u taflu i le aflan tu allan i'r dre.
41. Wedyn bydd yn trefnu i'r plastr ar y waliau gael ei grafu i ffwrdd i gyd. Bydd y plastr hefyd yn cael ei daflu i le aflan tu allan i'r dre.
42. Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ail-blastro.
43. “Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ail-blastro'r tŷ,
44. mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan.
45. Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael ei daflu mewn lle aflan tu allan i'r dre.
46. Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi ei gau, yn aflan am weddill y dydd.
47. A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad.
48. “Ond os ydy'r offeiriad yn darganfod fod y tyfiant heb ddod yn ôl i'r tŷ ar ôl iddo gael ei ail-blastro, bydd e'n cyhoeddi fod y tŷ yn lân – mae'r drwg wedi mynd.
49. Ac er mwyn dangos fod y tŷ yn lân, bydd e'n cael dau aderyn, darn o bren cedrwydd, edau goch a brigau o isop.
50. Bydd yn lladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
51. Wedyn rhaid iddo gymryd y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'r aderyn sy'n dal yn fyw, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd a'r dŵr, ac yna taenellu'r tŷ saith gwaith gydag e.
52. Dyna sut y bydd e'n glanhau y tŷ gyda gwaed yr aderyn gafodd ei ladd, y dŵr, yr aderyn byw, y darn o bren cedrwydd, y brigau o isop a'r edau goch.
53. Yna bydd yn gadael i'r aderyn byw hedfan i ffwrdd allan o'r dre. Dyna sut y bydd e'n gwneud y tŷ yn lân ac yn iawn i fyw ynddo eto.
54. “Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag unrhyw glefyd heintus, ffafws,
55. llwydni mewn dilledyn, neu dyfiant ffyngaidd mewn tŷ,
56. chwydd neu rash neu smotyn.
57. Dyna sut mae gwahaniaethu rhwng y glân a'r aflan. Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag afiechydon heintus.”