36. Bydd yr offeiriad yn dweud fod rhaid gwagio'r tŷ cyn iddo fynd yno i'w archwilio, rhag i bopeth yn y tŷ gael ei wneud yn aflan. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yno i archwilio'r tŷ.
37. Os bydd e'n darganfod tyfiant gwyrdd neu goch ar y waliau sy'n ddyfnach na'r wyneb,
38. mae'r offeiriad i fynd allan o'r tŷ a'i gau am saith diwrnod.
39. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ
40. mae'r offeiriad i orchymyn fod y cerrig oedd â'r tyfiant arnyn nhw i gael eu tynnu allan o'r waliau a'u taflu i le aflan tu allan i'r dre.
41. Wedyn bydd yn trefnu i'r plastr ar y waliau gael ei grafu i ffwrdd i gyd. Bydd y plastr hefyd yn cael ei daflu i le aflan tu allan i'r dre.
42. Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ail-blastro.
43. “Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ail-blastro'r tŷ,
44. mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan.
45. Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael ei daflu mewn lle aflan tu allan i'r dre.
46. Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi ei gau, yn aflan am weddill y dydd.
47. A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad.