Lefiticus 14:2-13 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen:“Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad.

3. Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella

4. bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop.

5. Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwch ben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.

6. Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'i trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd.

7. Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd.

8. “Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio ei gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod.

9. Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.

10. “Y diwrnod wedyn mae i gymryd dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd.

11. Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhad yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa'r Tabernacl.

12. Yno bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd a'i codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.

13. Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd piau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.

Lefiticus 14