Lefiticus 13:4-23 beibl.net 2015 (BNET)

4. “Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.

5. Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am aros ar wahân am saith diwrnod arall.

6. Wedyn os fydd e wedi gwella ychydig, a heb ledu, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Dim ond rash ydy e. Rhaid iddo olchi ei ddillad a bydd yn lân.

7. “Os bydd y rash yn dod yn ôl ac yn lledu wedyn, rhaid mynd at yr offeiriad eto.

8. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os ydy'r rash wedi lledu, bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.

9. “Pan mae gan rywun afiechyd ar y croen rhaid mynd â'r person hwnnw at yr offeiriad

10. i'w archwilio. Os ydy'r smotyn yn wyn, y briw wedi casglu, a'r blew wedi troi'n wyn,

11. mae'n afiechyd parhaol ar y croen, ac mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Waeth heb ei gadw ar wahân am gyfnod. Mae e'n aflan.

20. Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol.

21. Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod.

22. “Os bydd y drwg yn lledu yn y cyfnod yma, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan.

23. Ond os fydd e ddim yn lledu, a dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan ei fod yn lân.

Lefiticus 13