Lefiticus 13:20-36 beibl.net 2015 (BNET)

20. Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol.

21. Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod.

22. “Os bydd y drwg yn lledu yn y cyfnod yma, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan.

23. Ond os fydd e ddim yn lledu, a dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan ei fod yn lân.

24. “Pan mae rhywun wedi llosgi ei hun, ac mae'r cnawd ble mae'r llosg wedi troi'n goch neu'n smotyn gwyn,

25. rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Mae wedi torri allan o'r llosg, a rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.

26. Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen ac fel petai'n gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.

27. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus.

28. Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, ac fel petai'n gwella ychydig, dim ond chwydd o ganlyniad i'r llosg ydy e. Bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân, am mai dim ond craith sy'n ganlyniad i'r llosg ydy e.

29. “Os oes gan rywun friw wedi troi'n ddrwg ar y pen neu'r gên,

30. rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew yn y drwg yn felyn ac yn denau, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ffafws ydy e, clefyd heintus ar y pen neu'r gên.

31. Ond os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'r blew yn dal yn iach, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.

32. Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal yn edrych ddim dyfnach na'r croen,

33. rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto.

34. Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i edrych ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân.

35. Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân

36. rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan.

Lefiticus 13