1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron,
2. “Pan mae gan rywun chwydd neu rash neu smotyn wedi troi'n llidiog ar y croen, gall fod yn arwydd o glefyd heintus. Rhaid mynd â'r person hwnnw at offeiriad, sef Aaron neu un o'i ddisgynyddion.
3. Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
4. “Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
5. Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am aros ar wahân am saith diwrnod arall.
12-13. Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân.
14-15. Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
16-17. “Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân.
18-19. “Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad.
40-41. “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.
47-49. “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.