1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron,
2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma pa anifeiliaid gewch chi fwyta:
3. Unrhyw anifail sydd â charn fforchog (wedi ei rhannu'n ddwy), ac sy'n cnoi cil.
10-12. Ond mae unrhyw greaduriaid sy'n heigio yn y dŵr ag sydd heb esgyll a cennau arnyn nhw i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta eu cig nhw na cyffwrdd un sydd wedi marw.
13-19. “‘Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
20-23. “‘Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.
24-28. “‘Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A peidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi eich dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.
29-32. “‘Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, neu sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.