6. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i ddau fab arall, Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch galaru drwy adael i'ch gwallt hongian yn flêr, a drwy rwygo eich dillad. Os gwnewch chi byddwch chi'n marw, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig gyda'r bobl i gyd. Ond bydd pawb arall o bobl Israel yn galaru am y dynion wnaeth yr ARGLWYDD eu lladd gyda'r tân.
7. Rhaid i chi beidio mynd allan o'r Tabernacl rhag i chi farw, am eich bod wedi cael eich eneinio ag olew i wasanaethu'r ARGLWYDD.” A dyma nhw'n gwneud fel roedd Moses yn dweud.
8. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron:
9. “Rhaid i ti a dy ddisgynyddion beidio yfed gwin neu ddiod feddwol cyn mynd i mewn i'r Tabernacl, rhag i chi farw. Fydd y rheol yma byth yn newid.
10. Rhaid i chi fedru gwahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a rhwng beth sy'n aflan ac yn lân.
11. A rhaid i chi ddysgu i bobl Israel y rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi iddyn nhw drwy Moses.”
12. Wedyn dyma Moses yn siarad gydag Aaron a'r ddau fab oedd ganddo ar ôl, sef Eleasar ac Ithamar: “Cymerwch yr offrwm grawn sydd ar ôl, a bwyta'r hyn sydd heb furum ynddo wrth ymyl yr allor. Mae'n gysegredig iawn.
13. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Eich siâr chi a'ch disgynyddion ydy e. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.
14. Ond gyda'r frest sy'n cael ei chwifio a darn uchaf y goes ôl dde sy'n cael ei rhoi i chi, cewch chi a'ch meibion a'ch merched ei fwyta yn unrhyw le sydd wedi cael ei gysegru. Y darnau yma ydy'ch siâr chi o'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
15. Dyma'r darnau sy'n cael eu rhoi, gyda'r brasder sydd i'w losgi, yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Dyma'ch siâr chi a'ch plant bob amser. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.”
16. Buodd Moses yn edrych ym mhobman am fwch gafr yr offrwm i lanhau o bechod, ond darganfyddodd ei fod wedi cael ei losgi. Roedd e wedi digio gydag Eleasar ac Ithamar (y ddau fab oedd gan Aaron ar ôl).