Lefiticus 1:11-13 beibl.net 2015 (BNET)

11. Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.

12. Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r brasder, mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor.

13. Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl gyda dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

Lefiticus 1