1-2. Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus. (Roedd yn cynnwys yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).
3. Ond pan glywodd pobl Gibeon beth roedd Josua wedi ei wneud i drefi Jericho ac Ai,
4. dyma nhw'n bod yn gyfrwys. Dyma rai ohonyn nhw'n cymryd arnynt eu bod yn negeswyr o wlad bell. Dyma nhw'n rhoi hen sachau ar gefnau eu hasynnod, a cario hen boteli crwyn oedd wedi rhwygo a chael eu trwsio.
5. Dyma nhw'n gwisgo hen sandalau oedd wedi treulio, hen ddillad carpiog, a cario bara oedd wedi sychu a llwydo.
6. Wedyn dyma nhw'n mynd at Josua i'r gwersyll yn Gilgal, a dweud wrth bobl Israel, “Dŷn ni wedi teithio o wlad bell, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch gyda ni.”