Josua 9:1-2-5 beibl.net 2015 (BNET)

1-2. Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus. (Roedd yn cynnwys yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).

3. Ond pan glywodd pobl Gibeon beth roedd Josua wedi ei wneud i drefi Jericho ac Ai,

4. dyma nhw'n bod yn gyfrwys. Dyma rai ohonyn nhw'n cymryd arnynt eu bod yn negeswyr o wlad bell. Dyma nhw'n rhoi hen sachau ar gefnau eu hasynnod, a cario hen boteli crwyn oedd wedi rhwygo a chael eu trwsio.

5. Dyma nhw'n gwisgo hen sandalau oedd wedi treulio, hen ddillad carpiog, a cario bara oedd wedi sychu a llwydo.

Josua 9