Josua 9:15-23 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb heddwch gyda nhw, ac addo gadael iddyn nhw fyw. A dyma arweinwyr Israel yn cadarnhau'r cytundeb drwy dyngu llw.

16. Ddeuddydd wedyn dyma bobl Israel yn darganfod y gwir – pobl leol oedden nhw!

17. Symudodd Israel yn eu blaenau, a cyrraedd eu trefi nhw, sef Gibeon, Ceffira, Beëroth, a Ciriath-iearim.

18. Ond wnaeth pobl Israel ddim ymosod arnyn nhw am fod eu harweinwyr wedi cymryd llw yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y bobl i gyd yn cwyno am yr arweinwyr.

19. Ond meddai'r arweinwyr wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi cymryd llw, a gwneud addewid i'r bobl yma yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Allwn ni ddim eu cyffwrdd nhw!

20. Os ydyn ni am osgoi melltith Duw arnon ni am dorri'n haddewid, rhaid i ni adael iddyn nhw fyw.

21. Felly gadewch iddyn nhw fyw.” A cawson nhw dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, fel roedd yr arweinwyr wedi addo iddyn nhw.

22. Dyma Josua'n galw'r Gibeoniaid, a gofyn iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi'n twyllo ni? Pam wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n dod o wlad bell, a chithau'n byw yma wrth ein hymyl ni?

23. Nawr dych chi wedi'ch condemnio i fod yn gaethweision am byth. Byddwch chi'n torri coed ac yn cario dŵr i deml fy Nuw i.”

Josua 9