Josua 8:8-13 beibl.net 2015 (BNET)

8. Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna'ch ordors chi.”

9. Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd i guddio rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o'r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl.

10. Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai.

11. Dyma nhw'n gwersylla yr ochr arall i'r dyffryn oedd i'r gogledd o Ai.

12. Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i'r gorllewin o'r dref, rhwng Bethel ac Ai.

13. Felly roedd pawb yn eu lle – y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn.

Josua 8