Josua 8:7-13 beibl.net 2015 (BNET)

7. Wedyn byddwch chi'n dod o'r lle roeddech chi'n cuddio ac yn concro'r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi.

8. Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna'ch ordors chi.”

9. Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd i guddio rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o'r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl.

10. Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai.

11. Dyma nhw'n gwersylla yr ochr arall i'r dyffryn oedd i'r gogledd o Ai.

12. Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i'r gorllewin o'r dref, rhwng Bethel ac Ai.

13. Felly roedd pawb yn eu lle – y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn.

Josua 8