14. Yna'r bore wedyn, pan welodd brenin Ai bobl Israel, dyma fe'n arwain ei fyddin allan i ymladd yn eu herbyn. Aeth i'r dwyrain, i le oedd yn edrych allan dros Ddyffryn Iorddonen. Doedd e ddim yn sylweddoli fod dynion yn cuddio yr ochr arall i'r dref.
15. Yna dyma Josua a pobl Israel yn cymryd arnynt eu bod wedi eu curo, a troi'n ôl i ffoi i gyfeiriad yr anialwch.
16. Cafodd dynion Ai i gyd eu galw allan i fynd ar eu holau. A dyna sut cawson nhw eu harwain i ffwrdd oddi wrth y dref.
17. Doedd dim dynion o gwbl ar ôl yn Ai nac yn Bethel. Roedden nhw i gyd wedi mynd ar ôl pobl Israel, ac wedi gadael y dref yn gwbl ddiamddiffyn.
18. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dal dy waywffon i gyfeiriad Ai. Dw i'n rhoi'r dref yn dy law di.” Felly dyma Josua yn dal ei waywffon i gyfeiriad Ai.