Josua 6:5-18 beibl.net 2015 (BNET)

5. Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i'r fyddin i gyd weiddi'n uchel. Bydd waliau'r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a'r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i'r ddinas.”

6. Felly dyma Josua fab Nwn yn galw'r offeiriaid ato, ac yn dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o'i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.”

7. A dyma fe'n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.”

8. Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma'r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn.

9. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.

10. Ond roedd Josua wedi dweud wrth y milwyr, “Peidiwch gweiddi o gwbl. Cadwch yn hollol dawel nes i mi ddweud wrthoch chi am weiddi – wedyn cewch weiddi nerth eich pen!”

11. Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith. Yna mynd yn ôl i'r gwersyll ac aros yno dros nos.

12. Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad.

13. A dyma'r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.

14. Dyma nhw'n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna mynd yn ôl i'r gwersyll. A dyma nhw'n gwneud yr un peth am chwe diwrnod.

15. Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw'n codi gyda'r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o'r blaen – ond y tro yma dyma nhw'n mynd o'i chwmpas hi saith gwaith.

16. Y seithfed gwaith rownd, dyma'r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chi!

17. Mae'r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio'n llwyr, fel offrwm i'r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a'r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio'r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon.

18. A gwyliwch nad ydych chi'n cymryd unrhyw beth sydd i fod i gael ei ddinistrio. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n rhoi pobl Israel mewn perygl, ac yn achosi dinistr ofnadwy.

Josua 6