11. Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith. Yna mynd yn ôl i'r gwersyll ac aros yno dros nos.
12. Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad.
13. A dyma'r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.
14. Dyma nhw'n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna mynd yn ôl i'r gwersyll. A dyma nhw'n gwneud yr un peth am chwe diwrnod.
15. Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw'n codi gyda'r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o'r blaen – ond y tro yma dyma nhw'n mynd o'i chwmpas hi saith gwaith.
16. Y seithfed gwaith rownd, dyma'r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chi!
17. Mae'r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio'n llwyr, fel offrwm i'r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a'r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio'r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon.
18. A gwyliwch nad ydych chi'n cymryd unrhyw beth sydd i fod i gael ei ddinistrio. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n rhoi pobl Israel mewn perygl, ac yn achosi dinistr ofnadwy.
19. Yr ARGLWYDD sydd piau popeth wedi ei wneud o arian neu aur, pres neu haearn. Mae'r pethau hynny i gyd i'w cadw yn stordy'r ARGLWYDD.”
20. Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio dyma nhw'n gweiddi'n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma'r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro.
21. Dyma nhw'n lladd pawb a phopeth byw – dynion a merched, hen ac ifanc, gwartheg, defaid ac asynnod.
22. Ond roedd Josua wedi dweud wrth y ddau ddyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad, “Ewch chi i dŷ y butain, a dod â hi a'i theulu allan yn fyw, fel roeddech chi wedi addo iddi.”
23. Felly dyma'r ysbiwyr ifanc yn mynd i nôl Rahab, a'i thad a'i mam, ei brodyr, a phawb arall o'r theulu. Dyma nhw'n mynd â hi a'i theulu i gyd i le saff tu allan i wersyll Israel.