1. Roedd giatiau Jericho wedi eu cau'n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o'r ddinas.
2. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dw i'n mynd i roi dinas Jericho i ti. Byddi di'n concro ei brenin a'i byddin!
3. Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod.
4. Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda'r offeiriaid yn chwythu'r cyrn hwrdd.
5. Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i'r fyddin i gyd weiddi'n uchel. Bydd waliau'r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a'r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i'r ddinas.”
6. Felly dyma Josua fab Nwn yn galw'r offeiriaid ato, ac yn dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o'i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.”
7. A dyma fe'n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.”