Josua 4:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi'r Afon Iorddonen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua:

2. “Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth.

3. Dywed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely'r afon, o'r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â'r cerrig, a'i gosod nhw i lawr lle byddwch chi'n gwersylla heno.”

4. Dyma Josua'n galw'r dynion oedd wedi eu penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth),

5. a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – bydd un garreg ar gyfer pob llwyth.

6. Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’,

7. gallwch ddweud wrthyn nhw fod yr Afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i'r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”

8. Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol yr Afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth.) A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno.

Josua 4