5. A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”
6. Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny.
7. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i'n mynd i dy wneud di'n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fy mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses.
8. “Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddowch chi at lan Afon Iorddonen, cerddwch i mewn i'r dŵr a sefyll yno.’”