Josua 3:10-17 beibl.net 2015 (BNET)

10. Dyma sut byddwch chi'n gweld fod y Duw byw gyda chi, a'i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid.

11. Edrychwch! Mae Arch Ymrwymiad Meistr y ddaear gyfan yn barod i'ch arwain chi ar draws yr Afon Iorddonen!

12. Dewiswch un deg dau o ddynion o lwythau Israel – un o bob llwyth.

13. Pan fydd traed yr offeiriaid sy'n cario Arch yr ARGLWYDD, Meistr y ddaear gyfan, yn cyffwrdd dŵr yr afon, bydd y dŵr yn stopio llifo ac yn codi'n bentwr.”

14. Felly pan adawodd y bobl eu pebyll i groesi'r Iorddonen, dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch yr Ymrwymiad yn mynd o'u blaenau.

15-16. Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a pan gyffyrddodd eu traed y dŵr dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref sydd wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho.

17. Safodd yr offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar wely'r Afon Iorddonen, nes oedd pobl Israel i gyd wedi croesi i'r ochr arall ar dir sych.

Josua 3