1. Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw'n aros yno cyn croesi'r afon.
2. Ddeuddydd wedyn dyma'r arweinwyr yn mynd trwy'r gwersyll
3. i roi gorchymyn i'r bobl, “Pan fyddwch chi'n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o'r fan yma, a dilyn yr Arch.
4. Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir rhyngoch chi a'r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o'r blaen.”
5. A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”
15-16. Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a pan gyffyrddodd eu traed y dŵr dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref sydd wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho.