14. “Edrychwch, fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dych chi'n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo.
15. Ond gallwch fod yr un mor siŵr y bydd yr ARGLWYDD yn dod â barn a dinistr arnoch chi os byddwch chi'n anufudd iddo. Byddwch yn cael eich gyrru allan o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.
16. Os byddwch chi'n torri amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud, ac yn dechrau addoli a gweddïo ar dduwiau eraill, bydd yr ARGLWYDD yn digio gyda chi, a byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae e wedi ei rhoi i chi.”