Josua 23:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Aeth blynyddoedd lawer heibio. Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw Israel yn saff rhag y gelynion o'i chwmpas, ac roedd Josua wedi mynd yn hen iawn.

2. Dyma fe'n galw pobl Israel at ei gilydd – y dynion hŷn, arweinwyr, barnwyr a'r swyddogion. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi mynd yn hen.

3. Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD ar eich rhan chi i'r bobloedd yma i gyd. Yr ARGLWYDD eich Duw chi ydy e, ac mae e wedi ymladd drosoch chi.

4. Dw i wedi rhannu rhwng eich llwythau dir y bobl hynny sydd ddim eto wedi eu concro yn ogystal â'r rhai dw i wedi eu dinistrio – sef yr holl dir sydd rhwng yr Afon Iorddonen a Môr y Canoldir.

Josua 23