1. Aeth blynyddoedd lawer heibio. Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw Israel yn saff rhag y gelynion o'i chwmpas, ac roedd Josua wedi mynd yn hen iawn.
2. Dyma fe'n galw pobl Israel at ei gilydd – y dynion hŷn, arweinwyr, barnwyr a'r swyddogion. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi mynd yn hen.
3. Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD ar eich rhan chi i'r bobloedd yma i gyd. Yr ARGLWYDD eich Duw chi ydy e, ac mae e wedi ymladd drosoch chi.