Josua 22:8-27 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Ewch adre, a rhannu gyda'ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi ei gymryd gan eich gelynion! – lot fawr o anifeiliaid, arian, aur, pres, haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.”

9. Felly dyma lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse yn gadael gweddill pobl Israel yn Seilo yn Canaan, a troi am adre i'w tir eu hunain yn Gilead – sef y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi iddyn nhw trwy Moses.

10. Ond pan oedden nhw'n dal ar ochr Canaan i'r Iorddonen dyma nhw'n adeiladu allor fawr drawiadol yn Geliloth, wrth ymyl yr afon.

11. Pan glywodd gweddill pobl Israel am y peth,

12. dyma nhw'n dod at ei gilydd yn Seilo i baratoi i fynd ar eu holau, ac ymosod ar y ddau lwyth a hanner.

13. Ond cyn gwneud hynny dyma bobl Israel yn anfon Phineas mab Eleasar, yr offeiriad, i siarad â nhw yn Gilead.

14. Aeth deg o arweinwyr eraill gydag e, un o bob llwyth – dynion oedd yn arweinwyr teuluoedd estynedig o fewn eu llwythau.

15. Dyma'r rhain yn mynd i Gilead at lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, a dweud wrthyn nhw:

16. “Mae pobl Israel i gyd eisiau gwybod pam ydych chi wedi bradychu Duw Israel fel yma. Beth wnaeth i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD ac adeiladu eich allor eich hunain? Sut allwch chi wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD fel yma?

17. Oedd beth wnaethon ni yn Peor ddim digon drwg? Dŷn ni'n dal ddim wedi dod dros hynny'n iawn. Mae canlyniadau'r pla wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD bryd hynny yn dal gyda ni!

18. A dyma chi eto heddiw, yn troi cefn ar yr ARGLWYDD! Os gwnewch chi droi yn ei erbyn e heddiw, mae perygl y bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pobl Israel i gyd yfory!

19. Os ydych chi'n teimlo fod eich tir chi yr ochr yma i'r Iorddonen yn aflan, dewch drosodd i fyw gyda ni ar dir yr ARGLWYDD ei hun, lle mae Pabell Presenoldeb Duw. Ond peidiwch troi yn erbyn yr ARGLWYDD, a'n tynnu ni i mewn i'r peth, drwy godi allor arall i chi'ch hunain. Dim ond un allor sydd i fod i'r ARGLWYDD ein Duw.

20. “Meddyliwch am Achan fab Serach! Pan fuodd e'n anufudd i'r gorchymyn am y cyfoeth oedd i fod i gael ei gadw i'r ARGLWYDD, roedd Duw yn ddig gyda phobl Israel i gyd. Dim fe oedd yr unig un wnaeth farw o ganlyniad i'w bechod!”

21. Dyma bobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse yn ateb arweinwyr Israel, a dweud,

22. “Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Mae e'n gwybod beth ydy'r gwir, a rhaid i bobl Israel wybod hefyd! Os ydyn ni wedi troi yn ei erbyn a bod yn anufudd, lladdwch ni heddiw!

23. “Wnaethon ni ddim codi'r allor i ni'n hunain gyda'r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni'n dweud celwydd!

24. Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â'r ARGLWYDD, Duw Israel?

25. Mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Afon Iorddonen yn ffin glir rhyngon ni â chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli'r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli'r ARGLWYDD.

26. Felly dyma ni'n penderfynu codi'r allor yma. Nid er mwyn offrymu ac aberthu arni,

27. ond i'n hatgoffa ni a chi, a'n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy'r lle i ni fynd i addoli'r ARGLWYDD, a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â'r ARGLWYDD.’

Josua 22