28. O diriogaeth llwyth Issachar: Cishon, Daberath,
29. Iarmwth, ac En-gannïm, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
30. O diriogaeth llwyth Asher: Mishal, Abdon,
31. Helcath, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
32. O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Chamath-dor, a Cartan, a'r tir pori o gwmpas pob un. Tair o drefi i gyd.
33. Felly cafodd yr un deg tair tref yma eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon.
34. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari:O diriogaeth llwyth Sabulon: Jocneam, Carta,
35. Dimna, a Nahalal, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
36. O diriogaeth llwyth Reuben: Betser, Iahats,
37. Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
38. O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Machanaîm,
39. Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
40. Felly cafodd yr un deg dwy tref yma eu rhoi i weddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari.
41. Cafodd pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda'u tir pori, eu rhoi i lwyth Lefi, o fewn tiroedd pobl Israel.
42. Roedd tir pori o gwmpas pob un o'r trefi.
43. Felly dyma'r ARGLWYDD yn rhoi i bobl Israel yr holl dir roedd wedi ei addo i'w hynafiaid nhw. Dyma nhw'n ei goncro ac yn setlo i lawr i fyw ynddo.
44. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch iddyn nhw fel roedd e wedi addo ar lw i'w hynafiaid. Roedd wedi eu helpu i goncro eu gelynion i gyd.
45. Roedd pob un addewid wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel wedi dod yn wir.